Wednesday, July 25, 2007

merch o liw ewyn - a girl the colour of foam

From Language Hat I learn that the University of Swansea has undertaken a major project: putting Dafydd ap Gwilym on line.

As they say
Dafydd ap Gwilym composed Welsh-language poetry about love and nature in the mid-fourteenth century, using extremely sophisticated verse forms. He is generally regarded as Wales’s greatest Welsh-language poet, and is a major figure in medieval European literature... It will also make the poems accessible to a wider audience, both Welsh and English-speaking, by providing paraphrases in modern Welsh and English translations of all the poems.
You can get the original (of course!) and any of sources, modern Welsh paraphrase, English translation, audio, manuscripts, notes, and more.

Here's a sample:

Y Seren

Digio'dd wyf am liw ewyn,
Duw a ŵyr meddwl pob dyn.
O daw arnaf o'i chariad,
F'enaid glwys, fyned i'w gwlad,
Pell yw i'm bryd ddirprwyaw
Llatai drud i'w llety draw,
Na rhoi gwerth i wrach, serth swydd,
Orllwyd daer er llateirwydd,
Na dwyn o'm blaen dân-llestri,
Na thyrs cwyr, pan fo hwyr hi,
Dros gysgu y dydd gartref
A rhodio'r nos dros y dref.
Ni'm gwŷl neb, ni'm adnebydd,
Ynfyd wyf, yny fo dydd.

Mi a gaf heb warafun
Rhag didro heno fy hun
Canhwyllau'r Gŵr biau'r byd
I'm hebrwng at em hoywbryd.
Bendith ar enw'r Creawdrner
A wnaeth saeroniaeth y sêr,
Hyd nad oes dim oleuach
No'r seren gron burwen bach.

Cannaid yr uchel geli,
Cannwyll ehwybrbwyll yw hi.
Ni ddifflan pryd y gannwyll,
A'i dwyn ni ellir o dwyll.
Nis diffydd gwynt hynt hydref,
Afrlladen o nen y nef.
Nis bawdd dwfr, llwfr llifeiriaint,
Disgwylwraig, dysgl saig y saint.
Nis cyrraidd lleidr â'i ddwylaw,
Gwaelod cawg y Drindod draw.
Nid gwiw i ddyn o'i gyfair
Ymlid maen mererid Mair.
Golau fydd ymhob ardal,
Goldyn o aur melyn mâl.
Gwir fwcled y goleuni,
Gwalabr haul, gloyw wybr yw hi.

Hi a ddengys ym heb gudd,
Em eurfalch, lle mae Morfudd.
Crist o'r lle y bo a'i diffydd
Ac a'i gyr, nid byr y bydd,
Gosgedd torth gan gyfan gu,
I gysgod wybr i gysgu.

The Star

I am going wild about [a girl] the colour of foam,
God knows everyone's thoughts.
If I should go because of love for her,
my lovely darling, to her region,
I have no intention of sending in my place
an expensive love messenger to her house yonder,
nor of paying a fierce grey-headed old woman
(licentious job) to act as a bawd,
nor of carrying lanterns before me,
nor wax torches, when it is late,
instead of sleeping at home by day
and roaming around the town at night.
No one will see me, nor recognise me,
I am mad, until it is day.

Lest I should get lost on my own tonight
I will get without hindrance
the candles of the Man who owns the world
to lead me to a jewel of fair countenance.
Blessed be the name of the Lord Creator
who made the craftmanship of the stars,
so that there is nothing brighter
than the round pure-white little star.

Sun of the high heavens,
it is a clear-minded candle.
The candle's countenance will not disappear,
and it cannot be stolen by deceit.
The wind of autumn's course will not extinguish it,
consecrated wafer from the height of heaven.
Water will not drown it, wet torrents,
watcher, feast-dish of the saints.
No thief can reach it with his hands,
base of the Trinity's bowl yonder.
It is no use for a man from his place
to hunt Mary's pearl.
It is bright in every region,
a coin of yellow burnished gold.
True buckler of light,
sun's form, it is a dew-drop of the sky.

It will show me without concealment,
proud golden jewel, where Morfudd is.
Christ will extinguish it from where it is
and send it, it will not be short,
shape of a lovely whole white loaf,
to sleep in the sky's shade.

Modern Welsh

Y Seren

Rwy'n gwylltio am [ferch o] liw ewyn,
Duw sy'n gwybod meddwl pawb.
Os bydd i mi fynd i'w hardal
o gariad ati, f'anwylyd hardd,
nid yw'n fwriad gennyf anfon negesydd serch costus
yn fy lle i'w chartref draw,
na thalu hen wraig (swydd anllad)
lwyd iawn a ffyrnig i fynd â neges serch,
na chario llusernau o'm blaen,
na thorsiau cwyr, pan fydd hi'n nos,
yn lle cysgu gartref yn ystod y dydd
a chrwydro ar hyd y dref gyda'r nos.
Ni fydd neb yn fy ngweld, nac yn f'adnabod,
(rwy'n wallgof) nes iddi wawrio.

Rhag i mi fynd ar goll ar fy mhen fy hun heno
mi a gaf heb ddal yn ôl
ganhwyllau'r Gŵr biau'r byd
i'm harwain at y gem tlws ei hwyneb.
Bendith ar enw'r Arglwydd Greawdwr
a saernïodd y sêr,
fel nad oes dim byd goleuach
na'r seren gron burwen fach.

Haul y nefoedd uchel,
cannwyll chwim ei meddwl yw hi.
Ni fydd golwg y gannwyll yn diflannu,
ac ni ellir ei dwyn drwy dwyll.
Ni fydd gwynt hynt hydref yn ei diffodd,
bara'r offeren o frig y nef.
Ni fydd dŵr yn ei boddi, ffrydiau gwlyb,
gwylwraig, dysgl bwyd y saint.
Ni fydd lleidr yn ei chyrraedd â'i ddwylo,
gwaelod bowlen y Drindod draw.
Nid oes diben i ddyn o'i ranbarth
hela perl Mair.
Golau fydd ymhob ardal,
darn bath o aur melyn gloyw.
gwir darian gron y goleuni,
delw haul, gwlithyn yr wybren yw hi.

Hi a ddengys i mi heb guddio
lle y mae Morfudd, gem euraidd a balch.
Crist a fydd yn ei diffodd o'r lle y bo
a'i gyrru, nid [am amser] byr y bydd,
ffurf torth wen gyfan hyfryd,
i gysgod yr wybren i gysgu

Labels: , , ,

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

     <-- Older Post                     ^ Home                    Newer Post -->